Newyddion
Dathlu cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru ers 1994 ac edrych tua鈥檙 dyfodol
Daeth partneriaid prosiect ac aelodau o Bwyllgor Monitro鈥檙 Rhaglen ynghyd yn Portmarnock, Dulyn ar 23ain o Fehefin i ddathlu llwyddiant Rhaglen Gydweithredu Diriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020.
Rhoes y digwyddiad, dan arweiniad Jonathan Healy o 深夜亚洲福利久久talk, lwyfan i brosiectau a oedd yn fuddiolwyr yn Iwerddon a Chymru siarad am eu profiadau o gydweithio ar draws M么r Iwerddon, ar 么l anerchiadau fideo agoriadol gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Pascal Donohoe, Gweinidog dros Wariant Cyhoeddus, Cyflawni鈥檙 Cynllun Datblygu Cenedlaethol a Diwygio yn Iwerddon.
Ailbwysleisiodd y Prif Weinidog y flaenoriaeth a osodai Llywodraeth Cymru ar ei chydberthynas ag Iwerddon a phwysigrwydd ychwanegol cynnal cydberthynasau rhwng rhanddeiliaid yn Iwerddon a Chymru yn yr amgylchedd sy鈥檔 bodoli ar 么l Brexit. Tynnodd sylw at swyddogaeth Cymru Ystwyth a Fframwaith M么r Iwerddon mewn helpu i wneud hynny. Wrth gydnabod llwyddiant Rhaglen Iwerddon Cymru, cadarnhaodd y Gweinidog Donohoe ymroddiad Llywodraeth Iwerddon i gael hyd i ffyrdd o adeiladu ar y cydberthynas a manteisio ar y cyfle i gael cyfnod newydd o weithgarwch cydweithredol.
Prif Weithredwr WEFO, Peter Ryland, a David Kelly, Cyfarwyddwr Cynulliad Rhanbarthol y De, a gyflwynodd y gweithgareddau, gan gyfeirio at y dyfodol ac esblygiad y cydberthynas. Cynhwysai Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ffocws cryf ar gydweithio ac roedd y blynyddoedd lawer o gydweithio rhwng Iwerddon a Chymru鈥檔 rhoi sail gadarn i adeiladu arni. Roedd yn bwysig nawr droi hyn yn rhywbeth real ar y ddaear a manteisio ar gyfleoedd i wneud rhywbeth newydd er gwaethaf absenoldeb Fframwaith gan yr UE. Roedd angen dygymod 芒 M么r Iwerddon ac roedd yn dod 芒 llawer o heriadau cyffredin i鈥檞 ganlyn ond hefyd cyfleoedd i weithio ar y cyd i ddarparu atebion. Roedd Fframwaith M么r Iwerddon wedi cael ei sefydlu 芒 chefnogaeth rhanddeiliaid ac roedd y galw am gyllid sbarduno gan Gymru Ystwyth yn uchel. Roedd hyn, a鈥檙 niferoedd a ddaeth i鈥檙 digwyddiad hwn a鈥檙 Symposiwm ym mis Mai, yn dangos galw cryf am gyfnod newydd o gydweithio. Roedd angen dod o hyd i ffyrdd i adeiladu ar y llwyddiant hwn a darparu鈥檙 gallu i gyflawni.
Sesiynau panel
Cynhaliodd Jonathan Healy dair sesiwn banel a oedd yn galluogi partneriaid i rannu eu profiadau a rhoi mewnwelediad ymarferol i werth unigryw cyflawni prosiectau ar y cyd sydd wedi cynhyrchu buddion gwirioneddol i gymunedau, busnesau a sefydliadau bob ochr i鈥檙 m么r.
Panel 1: Cyflawni Blaenoriaethau Cyffredin - T J Horgan SELKIE, Claire Connolly PORTHLADDOEDD DDOE A HEDDIW, Wim Meijer ACCLIMATIZE
Ystyriodd y panel y sylfaen yr oedd y Rhaglen wedi鈥檌 darparu a oedd yn galluogi rhannu arbenigedd a nodi arferion gorau, a hynny鈥檔 arwain at ganlyniadau o bwys. Tanlinellwyd ychwanegu at ehangder a maint gweithgarwch, cydgyfnewid mwy effeithiol ag awdurdodau perthnasol ac ymgysylltu 芒 chymunedau, ac ymrwymiad ganddynt, ar ddwy ochr M么r Iwerddon. Roedd cyfranogiad gweithredol BBaChau yn nodwedd allweddol, gan fod llawer o weithgareddau鈥檔 cael eu gyrru gan BBaChau, a hynny鈥檔 arwain at arloesi a llwyddiant masnachol. Roedd gwerth ychwanegol gweithio ar draws ffiniau鈥檔 bwysig, a sefydlu a datbylgu rhwydweithiau trawsffiniol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lefelau cyflawniad. Roedd pwysigrwydd manteisio ar gryfderau ar draws ein m么r cyffredin yn hytrach nag ymagweddiad ynysig yn eglur iawn; roedd y dymuniad am y 鈥渃wlwm Celtaidd鈥 hwn yn amlwg.
Panel 2: Gwerth ychwanegol cydweithio - Steve Conlon CALIN, David Kay ACCLIMATIZE, Aonghus McNabola D糯R UISCE
Roedd lefel uchel y cydgyfnewid rhwng sectorau addysg uwch / addysg bellach Cymru a busnesau yn Iwerddon, a鈥檙 ffordd arall, yn dangos yn eglur fuddion a gwerth ychwanegol cydweithio, a phriod gryfderau Prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon yn creu 鈥渞hwydwaith hynod-ragorol鈥. Roedd BBaChau wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o gyfle unigryw i weithio gyda sefydliadau AU dros y ffin ac wedi manteisio arno. Pan ddaeth y buddion unigryw鈥檔 amlwg, roedd yn haws o lawer ennyn diddordeb busnesau. Roedd gweithio trawsffiniol yn rhoi lens y gallai sefydliadau ar y naill ochr i鈥檙 ffin weld drwyddi sut roedd pethau鈥檔 cael eu gwneud ar y llall, h.y. roedd rhai gweithgareddau鈥檔 cael eu rhoi ar waith yn fwy effeithiol yng Nghymru, rhai yn Iwerddon, roedd dysgu ar y cyd yn arwain ar weithrediad mwy effeithiol ac yn cyflymu鈥檙 broses arloesi. Yn sgil Brexit roedd perygl y byddai ymwahaniad yn yr ymagweddiadau, roedd siarad ag eraill a dysgu ganddynt, heb ffiniau na rhwystrau, yn hwyluso hyblygrwydd a phersbectif ehangach ac effaith fwy.
Panel 3: Cydweithio yn y dyfodol - Oonagh Messette LLWYBRAU CELTAIDD, Fiona Doohan CEIRCH IACH, Shelagh Malham BLUEFISH/PPMI
Roedd darparu cyllid yn fater allweddol, 芒 chydnabyddiaeth bod rhaglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn helpu i gynnal cydweithio, nid oedd dim byd eto o natur gyfatebol yn Iwerddon. Roedd partneriaid wedi dangos galw am weithgarwch cydweithredol ac roedd galwad i Lywodraethau Cymru ac Iwerddon ill dwy ymdrechu am rywbeth mwy sylweddol i gysylltu Iwerddon a Chymru a hwyluso cydweithio yn y dyfodol, yn ddelfrydol rhaglen newydd. Yn y tymor byrrach, roedd cydnabyddiaeth bod angen i bartneriaid fod yn ddyfeisgar oherwydd, ar lawer o lefelau, yn enwedig yng nghyd-destun M么r Iwerddon, fod yr hyn sy鈥檔 digwydd yn Iwerddon yn effeithio ar Gymru ac fel arall. Roedd amddiffyn M么r Iwerddon yn flaenoriaeth allweddol ac roedd llywodraethiant cryf a chydweithio i hwyluso hyn yn hanfodol, neu fel arall byddai
cyfleoedd yn cael eu colli. Roedd momentwm yn bwysig iawn a鈥檙 angen i gael hyd i ffordd o gefnogi hyn yn allweddol.
Sylwadau i gloi
Caeodd y Cynghorydd Thomas Phelan o Gynulliad Rhanbarthol y De y digwyddiad, gan gydnabod y cyfraniad yr oedd prosiectau wedi鈥檜 gwneud yn ystod 30 mlynedd, a chan ategu鈥檙 angen i geisio cyfleoedd newydd am gydweithio rhwng ein dwy Genedl.
Y casgliad pennaf oedd bod cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru wedi bod yn llwyddiannus iawn ac roedd awydd amlwg i gydweithio ar draws M么r Iwerddon ac adeiladu ar y llwyddiant hwn. Roedd cyd-ddealltwriaeth mai dyma oedd yr adeg iawn, er gwaethaf Brexit a鈥檙 anawsterau trefniadol a oedd yn dod i鈥檞 ganlyn, i ddylunio ymagweddiad newydd at gydweithio er lles pawb.