Videos
Ffilm am Linad y ¶Ùŵ°ù gan Luke Ring
Bydd dysgu a arweinir gan ymchwil yn rhoi profiadau dysgu perthnasol a dwfn i fyfyrwyr, ar yr un pryd ag ysbrydoli staff â syniadau, cwestiynau a brwdfrydedd newydd.
Myfyriwr gradd anrhydedd yn ei bedwaredd flwyddyn yn Ysgol Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol UCC yw Luke Ring, a ymunodd â’r grŵp ymchwil llinad y »åŵ°ù ac astudio’r cwestiwn i ba raddau y gall llinad y »åŵ°ù oddef »åŵ°ù hallt. Mae hwn yn gwestiwn pwysig, gan fod llawer o ffrydiau gwastraff y gall fod ganddynt y potensial i gael eu defnyddio i dyfu llinad y »åŵ°ù yn cynnwys lefelau uchel o halltedd. Fel rhan o’i brosiect, ac i bwysleisio pwysigrwydd »åŵ°ù glân, gwnaeth Luke y fideo ysbrydoledig hwn.
Prosiect Brainwaves, Prifysgol Aberystwyth
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru’n esbonio fel y maent yn mynd i’r afael â’r her o ddarparu systemau cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn yr 21ain ganrif drwy egwyddorion economi gylchog – gan ennill budd o gynnyrch gwastraff a chan gynhyrchu gwerth ychwanegol. Mae slyri o ffermydd yn cael ei lanháu ac adnodd newydd ar ffurf bio-mà s llawn protein yn cael ei gynhyrchu, a hynny i gyd â help planhigion llinad y »åŵ°ù brodorol.
Dathlu Diwrnod ¶Ùŵ°ù y Byd 2022
Mae  yn cael ei gynnal yn flynyddol ar yr 22ain o Fawrth er 1993. Bydd yn dathlu »åŵ°ù ²¹â€™i nod yw codi ymwybyddiaeth o bobl ²õ²â‵µ byw heb fynediad at d»åŵ°ù saff.
Yn ystod Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Amgylchedd a Datblygiad yn 1992 yn Rio de Janeiro y trafodwyd gyntaf y syniad o gadw diwrnod »åŵ°ù ledled y byd. Wedyn fe fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn datgan mai 22ain o Fawrth oedd Diwrnod ¶Ùŵ°ù y Byd.
Un o brif ffocysau Diwrnod ¶Ùŵ°ù y Byd yw cefnogi cyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy 6 y Cenhedloedd Unedig, sef sicrhau »åŵ°ù saff a glanweithdra i bawb erbyn 2030.
Bob blwyddyn, bydd Diwrnod ¶Ùŵ°ù y Byd yn tynnu sylw at agwedd benodol ar d»åŵ°ù croyw. Thema 2022 yw ‘¶Ùŵ°ù daear - gwneud yr anweledig yn weledig’.
Brainwaves yn dathlu Diwrnod Ewrop 2021
Mae Diwrnod Ewrop yn cael ei goffáu eleni ar 9fed o Fai 2021, gan nodi 71 mlynedd ers achlysur hanesyddol ‘datganiad Schuman’, man cychwyn y daith tuag at gydweithio gwleidyddol newydd yn Ewrop. Mewn araith yn 1950, cyflwynodd Robert Schuman, gweinidog materion allanol Ffrainc, ei gynnig am reolaeth ar y cyd dros gynhyrchiant glo a dur, sef y defnyddiau pwysicaf i’r diwydiant arfau. Y syniad sylfaenol oedd na fyddai’r sawl heb reolaeth dros gynhyrchiant glo a dur yn gallu mynd i ryfel. Yn 1950, roedd cenhedloedd Ewrop yn dal i ymlafnio i oresgyn y dinistr a achoswyd gan yr Ail Ryfel Byd, a oedd wedi dod i ben 5 mlynedd ynghynt. A hwythau’n benderfynol o atal rhyfel mor ofnadwy eto, daeth llywodraethau yn Ewrop i’r casgliad y byddai cynhyrchu glo a dur ar y cyd – yng ngeiriau’r Datganiad – yn gwneud rhyfel rhwng yr ymrysonwyr hanesyddol Ffrainc a’r Almaen "nid yn unig y tu hwnt i’r dychymyg, ond yn faterol amhosib".
Byddai cyfuno buddiannau economaidd yn helpu i godi safonau byw, yn cynnig heddwch ac yn gam cyntaf tuag at Ewrop fwy unedig. Ystyrir mai’r cynnig hwn yw dechrau’r hyn sydd bellach yn Undeb Ewropeaidd. Dim ond yn 1985, mewn uwchgynhadledd Ewropeaidd a gynhaliwyd ym Milan, y penderfynodd Penaethiaid y Gwladwriaethau a’r Llywodraethau ddathlu’r dyddiad hwn fel Diwrnod Ewrop.
Erbyn hyn, bydd miloedd o bobl bob blwyddyn yn cymryd rhan mewn ymweliadau, dadleuon, cyngherddau a digwyddiadau eraill i nodi’r diwrnod. Nid yw Brainwaves ond yn un o’r miloedd o brosiectau ymchwil gan ac ²õ²â‵µ mynd ymlaen ledled Ewrop, wedi’u gwneud yn bosib drwy ariannu gan yr UE.