深夜亚洲福利久久

Skip to main content

Newyddion

Mae gallu Lemna i oroesi mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau鈥檔 syfrdanol!

13 Ebr 2022
Abby鈥檔 mesur twf llinad y d诺r yn y tanciau cynhwysydd llwyth canolig yn PA

Ers blwyddyn, mae Abby Campbell a Kirsty Allwood yn gweithio yng ngr诺p ymchwil BRAINWAVES sydd wedi鈥檌 leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o鈥檙 cynllun gradd blwyddyn mewn diwydiant.

Mae gan y ddwy ohonynt ddiddordeb byw mewn botaneg ac amaethyddiaeth gynaliadwy, ac felly roeddent ill dwy鈥檔 awyddus i ymuno 芒鈥檙 ymchwil barhaus i linad y d诺r a鈥檙 potensial sydd ganddo i adfer gwastraff amaethyddol.

Ar 么l y cyfnodau clo roeddent yn edrych ymlaen yn arw at ennill cymaint o brofiad yn y labordy ag y gallent.

 

Ers 10 mis maent yn archwilio pa mor dda y bydd llinad y d诺r yn tyfu ar wahanol ffrydiau gwastraff. Mae Lemna minor yn gallu goddef gwahanol amodau amgylcheddol. Maent wedi edrych ar ymatebion i amodau golau, maethynnau ac amrywiadau mewn tymheredd.  

Mae Abby鈥檔 awgrymu bod 鈥済allu Lemna minor i oroesi mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau鈥檔 syfrdanol. Os caiff yr amodau gorau posib gall dyfu鈥檔 rhyfeddol o gyflym gan ddyblu ei fio-m脿s mewn un wythnos. Yn wir, mae鈥檔 un o鈥檙 planhigion mwyaf gwych sydd i鈥檞 cael. Mae鈥檔 ffynnu鈥檔 arbennig ar slyri amrwd a threuliedig."

Esbonia Kirsty fod "gweddillion y broses dreulio鈥檔 ffynhonnell ardderchog o nitrogen ar ffurf amonia, a gaiff ei amsugno鈥檔 hawdd gan blanhigion - yn benodol, o safbwynt ein diddordebau ni, llinad y d诺r". I dyfu llinad y d诺r, buont yn profi gwahanol grynodiadau i ddarganfod y lefelau gorau o amoniwm i gael y cynhyrchiant bio-m脿s gorau.

Felly, beth yw diben eu holl brofiad ymarferol yn y labordy a thyfu llinad y d诺r mewn gweddillion o鈥檙 broses dreulio?

Wel, y nod yw cynhyrchu ymborth i anifeiliaid gan ei fod wedi cael ei ddangos bod llinad y d诺r yn fwyd maethlon, llawn protein i wahanol anifeiliaid fferm (ac i bobl hefyd!). Dangosodd ymchwil gychwynnol y merched fod hyn, drwy ddilyn dull economi gylchol, yn bosib iawn, ac felly maent wedi bod yn gweithio ar optimeiddio鈥檙 amsugniad maethynnau drwy addasu amodau tyfu i wella hyfywedd masnachol y dull hwn ymhellach.

Rydym yn dymuno pob lwc i鈥檙 gwyddonwragedd planhigion addawol hyn gan fod eu dyfodol i鈥檞 weld yn ddisglair!

Noddir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Iwerddon Cymru

Contact us

Adran y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig鈥痽m Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, SY23 3DA

Connect with us