Newyddion
Proffeil Ymchwilydd: Mr Cian Redmond
Bu Mr Cian Redmond, brodor o Swydd Wicklow, mor ddewr 芒 chytuno i ymgymryd 芒鈥檔 cyfweliad byr ar gyfer ein darn Proffeil Ymchwilydd ni. Graddiodd Cian yn ddiweddar 芒 B.Sc. mewn Bioleg Blanhigion Gymwysedig o Goleg Prifysgol Cork (UCC) lle dechreuodd ei ddiddordeb mewn astudio Llinad y D诺r.
Rydym yn falch dros ben o glywed y bydd Cian yn parhau 芒鈥檌 frwdfrydedd ynghylch y planhigyn bach disylw Llinad y D诺r, ac yntau wedi dechrau PhD a ariennir gan yr Adran Amaeth, Bwyd a M么r o dan brosiect Duck-Feed yn Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Daear ac Amgylcheddol yn UCC.
Llongyfarchiadau Cian ac rydym yn dymuno鈥檙 gorau ichi yn eich astudiaethau yn y dyfodol.
Beth yw eich enw chi a beth yr ydych yn ei astudio?
Cian Redmond yw f鈥檈nw i ac rwyf newdd gwblhau B.Sc. mewn Bioleg Blanhigion Gymwysedig yn UCC.
Beth sy鈥檔 dod 芒 chi at brosiect Brainwaves?
Cwrddais i 芒 phrosiect Brainwaves am y tro cyntaf yn ystod prosiect blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig. Roedd fy mhrosiect yn anelu at ymchwilio i effeithiau cryfder golau a ffotogyfnod ar y twf a gallu llinad y d诺r i dynnu maethynnau allan o鈥檙 d诺r. Gweithiais i ochr yn ochr 芒 phrosiect Brainwaves a defnyddio鈥檙 bioadweithyddion wedi鈥檜 stacio dan do i dyfu llinad y d诺r ar gyfer fy mhrosiect.
Ar 么l blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig dychwelais at brosiect Brainwaves yn gynorthwy-ydd ymchwil am yr haf. Roedd y gwaith hwn yn golygu tyfu llinad y d诺r yn yr awyr agored ar ffrwd o wastraff fferm. Roedd llinad y d诺r yn cael ei dyfu mewn bioadweithyddion mawr yn yr awyr agored.
Pa fath o brofiad a gawsoch chi ar brosiect Brainwaves?
Fe ges i lwyth enfawr o brofiad wrth weithio ar brosiect Brainwaves. Caniataodd y gwaith imi ymarfer ac adeiladu ar yr holl sgiliau a ddysgais i o鈥檓 cwrs israddedig. Rhoddodd y prosiect fewnwelediad gwych imi i fyd ymchwil. Enillais i brofiad o weithio fel rhan o d卯m mawr lle mae cyfathrebu鈥檔 bwysig tu hwnt.
Fe ges i brofiad ymchwil drwy arwain wrth redeg arbrofion ac adrodd yn 么l ar fy nghanlyniadau. Mae datrys problemau鈥檔 rhan fawr o weithio mewn ymchwil ac fe fwynheuais i weithio gyda鈥檙 t卯m i oresgyn problemau drwy gydol fy mhrofiad.
Enillais i brofiad hefyd o weithio gyda rhanddeiliaid i鈥檙 prosiect megis y ffermwyr a gyflenwodd y ffrydiau gwastraff fferm i鈥檙 prosiect, caniatodd hyn imi gael gwell dealltwriaeth o鈥檙 ffrydiau gwastraff a sut y c芒nt eu storio a鈥檜 defnyddio ar y fferm.
A gawsoch chi hwyl wrth ennill y profiad hwn i gyd?
Do, rwyf wir wedi cael hwyl arni. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel rhan o d卯m mawr, peth gwych yw gwybod y bydd y gwaith a wnes i yn bwydo i mewn i agweddau eraill ar y prosiect. Roedd yn braf iawn cydweithio 芒鈥檙 t卯m yng Nghymru a chwrdd ag eraill sy鈥檔 gweithio ar yr un nodau o brifysgolion gwahanol.
Ble nesaf?
Mwynheuais i weithio 芒 llinad y d诺r gymaint nes fy mod i newydd gychwyn PhD ar brosiect arall 芒 nodau tebyg i brosiect Brainwaves. Rwyf yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio 芒 llinad y d诺r a byddaf yn cadw cyswllt agos 芒 phrosiect Brainwaves wrth imi ymgymryd 芒鈥檓 PhD a pharhau ag ymchwil 芒 llinad y d诺r.